Bydd Gŵyl Tafwyl yn dychwelyd i Gastell Caerdydd yn ystod haf 2018.

Yn ogystal â’r atyniadau llenyddol, celfyddydol, chwaraeon a chomedi; mae trefnwyr yr ŵyl, Menter Caerdydd yn dweud y bydd digwyddiadau ac ardaloedd newydd yno’r flwyddyn nesaf.

Cafodd ei chynnal yng nghaeau Llandaf eleni, a llwyddodd i ddenu 38,000 o bobol.

Un o’r prif atyniadau yw’r arlwy cerddorol ac mae disgwyl i’r perfformwyr gael eu cyhoeddi ym mis Chwefror.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal dros benwythnos Mehefin 30, 2018, gyda digwyddiadau ffrinj yn cael eu cynnal o Fehefin 23 ymlaen.

Bydd mynediad i’r ŵyl yn rhad ac am ddim.