Mae holl staff a gwesteion y gwesty aeth ar dân yng Nglannau Dyfrdwy yn ystod oriau mân y bore bellach wedi’u canfod yn ddiogel.

Mae gwesty’r Gateway To Wales a’i deugain o ystafelloedd gwely wedi llosgi’n ulw gyda Gwasanaeth Tân ac Achub gogledd Cymru yn esbonio fod criwiau tân o’r Fflint, Wyddgrug, Bwcle, Wrecsam, Caer a Glannau Dyfrdwy wedi ymateb iddo.

“Wrth gyrraedd, canfu’r diffoddwyr tân fod to’r adeilad ynghyn,” meddai llefarydd ar ran y gwasanaeth tân.

“Mae’r holl breswylwyr a staff y gwesty wedi’u cyfrif ac wedi’u symud o’r adeilad i ardal ddiogel,” ychwanegodd y llefarydd.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod ffordd yr A494 i’r dwyrain wedi ailagor ond bod traffig trwm yn parhau, a phobol yn cael eu hannog i deithio ar ffyrdd eraill gan gynnwys yr A55.

‘Trawma’

Un oedd yn lletya yn y gwesty oedd Stacey Roberts, 26 oed, ei mab chwe mis oed, a’i phartner.

Mae’n esbonio iddi gael llety yn y gwesty gan Gyngor Sir Y Fflint am ei bod yn ddigartref.

Mae’n ychwanegu i’r larwm dân ganu cyn stopio eto, ac ni welodd yr un aelod o staff, ac ni wnaeth y system daenellu dŵr weithio, ond mi glywodd sŵn gweiddi o’r coridorau.

“Ry’n ni gyd mewn trawma,” meddai.

“Ry’n ni’n ddigartref a dyna ble wnaeth Cyngor Sir Y Fflint ein gosod ni. Gwesty’r Gateway To Wales oedd ein cartref. Mae hyn yn ofnadwy.”