Mae pwyllgor o Aelodau Seneddol wedi beirniadu cwmnïau sydd wedi rhoi cyngor ariannol i weithwyr dur ym Mhrydain, gan gynnwys gweithwyr dur TATA ym Mhort Talbot.

Yn ôl Pwyllgor Gwaith a Phensiynau Llywodraeth Prydain, roedd y cyngor ariannol yn “ddiffygiol” a doedd dim digon wedi’i wneud i atal gweithwyr rhag cael eu “camarwain” i drosglwyddo pensiynau i gynlluniau heb fuddiannau cystal, yn ôl Frank Field, cadeirydd y pwyllgor.

Mae Frank Field wedi galw ar yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) i wella eu hymdrechion i amddiffyn cwsmeriaid sydd â chynlluniau pensiwn wedi’u diffinio (DB).

Trosglwyddo pensiynau

Daw’r pryderon wrth i Gynllun Pensiwn Dur Prydeinig (BSPS) gael ei ailstrwythuro sydd wedi sbarduno aelodau i ystyried trosglwyddo eu harian at gynllun pensiwn personol.

“Tra bod gweithredoedd yr FCA i ddiogelu aelodau’r BSPS o’r diwedd yn rhywbeth i’w groesawu, rwy’n parhau’n bryderus am yr agwedd gyffredinol sydd wedi bod yn ddirfawr ddiffygiol,” meddai Frank Field.

Mae’n ychwanegu fod trosglwyddo cyflog bensiwn derfynol “ar y cyfan yn syniad ofnadwy” ac y dylai cwmnïau sy’n annog pobol i wneud hynny “wynebu cau yn syth.”

“Mae’r FCA wedi derbyn y llythyr ac mi fydd, wrth gwrs, yn ymateb iddo,” meddai llefarydd ar ran yr awdurdod.