Mae un lôn wedi’i chau i gyfeiriad y dwyrain yn dilyn gwrthdrawiad rhwng cyffordd 40 (Taibach) a chyffordd 39 (Port Talbot) ar yr M4.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r ardal am 10.12 y bore ma.

Roedd tri cherbyd wedi taro yn erbyn ei gilydd.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd pa mor ddifrifol yw’r digwyddiad.