Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu sylwadau dadleuol cynghorydd annibynnol ar Gyngor Môn oedd wedi galw am ddefnyddio “technoleg i atal gohebiaeth Gymraeg”.

Fe ddaeth sylwadau’r cyn-Aelod Cynulliad Ceidwadol, Peter Rogers wrth i’r Cyngor wrthod gwelliant a fyddai’n eu gweld yn rhoi’r gorau i weinyddu yn Gymraeg. Mae’r Cyngor eisoes yn gweithredu’n fewnol yn y Gymraeg.

Wrth drafod y mater, fe wnaeth Peter Rogers grybwyll e-bost uniaith Gymraeg – neu “lythyr anferth” – a gafodd ei hanfon at y cyngor gan Gymdeithas yr Iaith.

Dywed mewn araith a gafodd ei ffilmio a’i thrydar, mae’n gofyn, “A oes gennym dechnoleg i atal gohebiaeth Gymraeg?”

‘Dim lle’

Wrth ymateb i sylwadau Peter Rogers, dywedodd Osian Rhys o Gymdeithas yr Iaith: “Does dim lle i’r sylwadau rhagfarnllyd hyn. Rydyn ni’n falch bod cynghorwyr Môn wedi ymwrthod â’r agwedd adweithiol hon, ac, yn lle, wedi cytuno i gymryd cam mawr ymlaen i’r Gymraeg.

“Bydd sicrhau bod y Cyngor yn gweinyddu’n Gymraeg yn unig yn cael effaith hynod gadarnhaol ar yr iaith yn lleol ac yn genedlaethol.”