Mae cynghorydd annibynnol ar Gyngor Môn, Peter Rogers wedi beirniadu Cymdeithas yr Iaith am anfon gohebiaeth uniaith Gymraeg at y cyngor.

Mewn araith a gafodd ei ffilmio a’i thrydar, mae’r cyn-Aelod Cynulliad Ceidwadol yn gofyn, “A oes gennym dechnoleg i atal gohebiaeth Gymraeg?”

Mae ei sylwadau’n cyfeirio at e-bost uniaith Gymraeg gan y Gymdeithas – yr hyn y mae’n cyfeirio ato fel “llythyr anferth”.

Dywed nad oedd yn deall y neges, ond ei fod yn gweld enw Shaun Redmond ynddi.

“Roedd y cyfan yn Gymraeg, dim gair o Saesneg ynddi.

“Ysgrifennais i’n ôl, “Plis cofiwch fod croeso i chi ymdrin â’r Cyngor hwn yn Saesneg a Chymraeg ac y byddwch yn derbyn yr un lefel o wasanaeth yn y ddwy iaith.”

Ond ychwanega: “Dydy hynny ddim yn wir am Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. A ddylen ni orfod goddef hyn?

“Onid oes gennym dechnoleg yn fan hyn a allai atal yr ohebiaeth Gymraeg yma a’i dychwelyd?”

‘Trywydd peryglus’

Aeth Peter Rogers ymlaen i honni: “Rydym yn mynd ar drywydd peryglus iawn.

“Fyddwn i ddim yn meiddio dweud pa drywydd, ond weithiau mae’n dod i lawr i aparteid ieithyddol.”