Mae Heddlu’r De yn chwilio am ddyn yn dilyn lladrad ger peiriant twll-yn-y-wal yn Abertawe ddoe.

Roedd dynes oedrannus yn tynnu arian o’r peiriant pan aeth y dyn ati yn Stryd Rhydychen yn Abertawe am oddeutu 5.15pm.

Cafodd y dyn ei gwrso gan ddau ddyn arall a’i ddal, ond fe lwyddodd i ddianc eto.

Ceisiodd e ddwyn arian oddi ar ddynes arall yn fuan wedyn.

Mae dyn wedi cael ei arestio mewn perthynas â’r ail ddigwyddiad, ac mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan y ddynes yn y digwyddiad cyntaf.

Dynes oedrannus

Mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan ddynes sydd oddeutu 70 oed, 5’4″ a chanddi wallt tywyll.

Roedd hi’n gwisgo côt hir.

Mae’r heddlu hefyd eisiau clywed gan ddyn oedd yn dyst i’r digwyddiad ac a gwrsodd y dyn i lawr y stryd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.