Bydd £500,000 yn cael ei wario er mwyn darparu adnoddau addysg Cymraeg newydd i ddisgyblion ledled Cymru.

Mae’r arian yn rhan o’r cyllid blynyddol ar gyfer comisiynu adnoddau yn y Gymraeg, sydd wedi cael £500,000 yn ychwanegol ar gyfer 2018/19 fel rhan o’r cytundeb ar y cyllid rhwng Plaid Cymru a Llafur.

Caiff 22 o brosiectau newydd eu creu gyda’r arian, gan greu adnoddau newydd i blant a phobol ifanc rhwng tair ac 19 oed.

Bydd yr adnoddau yn cael eu rhoi i ddisgyblion sy’n dysgu Cymraeg fel pwnc, ac I bynciau eraill sy’n cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae prinder adnoddau wedi bod i ddisgyblion sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda llawer o athrawon yn cwyno eu bod yn gorfod eu cyfieithu.

“Llenwi bylchau”

“Rydyn ni am wneud yn siŵr bod yr un adnoddau addysgol perthnasol, diddorol a modern ar gael i bob un o’n disgyblion, ym mha iaith bynnag maen nhw’n astudio,” meddai Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg.

“Bydd y prosiectau hyn yn sicrhau bod y bylchau yn y ddarpariaeth Gymraeg sydd wedi’u nodi gan athrawon yn cael eu llenwi, ac na fydd dysgwyr dan anfantais am eu bod yn dewis dysgu drwy’r Gymraeg.”

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, fod addysg yn “hollbwysig” at gyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Plant a phobl ifanc sy’n mynd i ysgolion Cymraeg yw siaradwyr Cymraeg yfory. Mae’n hollbwysig, felly, rhoi’r adnoddau angenrheidiol iddyn nhw i sicrhau eu bod nhw’n cael yr addysg orau a bod yr adnoddau sydd ar gael iddyn nhw yn yr iaith maen nhw’n ei defnyddio bob dydd.”

Bydd y £500,000 yn cael ei rannu rhwng saith cyflenwr i ddarparu’r adnoddau, gan gynnwys Y Lolfa, Tinopolis, CBAC, Canolfan Peniarth, Atebol a Cynnal.