Bydd rhybudd tywydd melyn mewn grym dros Gymru o bump yr hwyr ddydd heddiwhyd at 11 bore fory.

Rhew sy’n peri’r perygl yn ôl y Swyddfa Dywydd, ond mae disgwyl llai o drafferth na fu ar ddechrau’r wythnos.

Mae disgwyl i rew ffurfio ar ffyrdd, palmentydd a llwybrau seiclo. Mae’r rhybudd mewn grym dros Gymru oll gan eithrio Ynys Môn ac ardaloedd arfordirol.