Mae signal ffônau symudol a chysylltiadau band eang yn parhau i fod yn waeth yng nghefn gwlad Cymru nag mewn ardaloedd dinesig, yn ôl adroddiad.

Mae’r adroddiad gan Ofcom yn dangos bod signal ar gyfer galwadau llais (signal 2G) ar gael dros 93% o ardaloedd trefol, ond dim ond 58% o Gymru wledig.

Ac yn achos cysylltiadau band lleol, mae 19% o eiddo yng nghefn gwlad methu derbyn cyflymder dros 10mb yr eiliad. Dim ond 1% o eiddo sy’n wynebu’r broblem yma mewn ardaloedd trefol.

Yn ogystal â hynny mae yna ardaloedd yng Nghymru o hyd lle nad oes darpariaeth symudol o gwbl. Dydy 9% o arwyneb Cymru ddim yn derbyn gwasanaeth gan unrhyw gwmni.

Gwella’r ddarpariaeth

“Mae ein canfyddiadau’n dangos bod angen i gynlluniau i wella’r ddarpariaeth symudol yng Nghymru fynd rhagddynt yn gynt,” meddai Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru, Rhodri Williams.

“Mae’n bwysig bod pawb sy’n rhan o’r broses o wella’r ddarpariaeth symudol yn cydweithio er mwyn i ddefnyddwyr yng Nghymru gael y gwasanaethau symudol maen nhw’n eu disgwyl, a’u bod yn debyg i’r hyn sydd ar gael yng ngweddill y Deyrnas Unedig.

“O ystyried topograffeg a dosbarthiad poblogaeth Cymru, mae yna anghenion unigryw am isadeiledd rhwydwaith sydd angen ei gyrraedd yng Nghymru i gadw i fyny gyda gweddill y DU.”