Mae mwy a mwy yn cefnu ar yrfa yn brifathrawon gan fod y swydd yn ymdrin ag “iechyd a diogelwch” yn fwy na “dysgu a disgyblion”.

Dyna yw safbwynt Rob Williams sydd yn Gyfarwyddwr Polisi â Chymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon Cymru (NAHT Cymru) – roedd ef ei hun yn brifathro tan ddwy flynedd yn ôl.

Daw ei sylwadau yn dilyn cyhoeddi ystadegau sy’n dangos bod cwymp o 66% wedi bod yn y nifer sy’n ceisio am swyddi yn brifathrawon ysgolion uwchradd.

Mae Rob Williams yn canmol Llywodraeth Cymru am gydnabod bod angen buddsoddi mewn hyfforddi arweinwyr ond mae hefyd yn dadlau bod gwraidd dyfnach i’r broblem.

Mae’n dadlau bod pobol yn dewis bod yn brifathrawon gan eu bod eisiau “effaith bositif ar fywydau plant” – ond yn gynyddol mae prifathrawon yn cael eu gorfodi i roi sylw i swyddogaethau eraill.

“Mae’r disgwyliadau am y rôl wedi newid,” meddai Rob Williams.

“Roedd fy nhad yn brifathro 20 blynedd yn ôl. Ni fyddai’n adnabod y rôl cymaint mwyach, oherwydd fwyfwy dydy [prifathrawon] ddim yn teimlo eu bod yn ymwneud â dysgu a disgyblion.

“Maen nhw’n rheolwyr adeiladau, iechyd a diogelwch – y fath yna o bethau. Mae’n rhaid gwneud hynny, ond rhaid gofyn: ‘Oes rhaid i brifathrawon wneud hyn?’”

Ei ddadl arall yw bod toriadau wedi “gwanhau” rôl y prifathro ac mae’n cwestiynu: “Pam bod yn arweinydd, os ydych chi yn methu arwain oherwydd diffyg adnoddau?”