Wrth i waith ymchwil ddangos bod dau o bob tri aelwyd yng ngwledydd Prydain am fwyta cinio dydd Sul a chig twrci ar ddiwrnod Dolig, mae Asiantaeth Safona Bwyd wedi cynnig cyngor ar sut i baratoi twrci yn ddiogel ac osogi gwenwyno.

Hefyd mae ganddyn nhw gyngor ar sut i storio gweddillion y twrci, unwaith mae’r prif bryd wedi bod.

Dyma’r cyngor:

1)    Wrth siopa bwyd ar gyfer y Nadolig, cofiwch fynd â digon o fagiau fel y gallwch gadw bwyd amrwd a bwyd parod i’w fwyta ar wahân er mwyn osgoi croes-halogi.

2)    Darllenwch y cyngor ar label eich twrci er mwyn sicrhau bod gennych chi ddigon o amser i’w ddadmer yn llawn. Fe all gymryd hyd at bedwar diwrnod i ddadmer.

3)    Peidiwch â golchi twrci amrwd; mae’n tasgu germau ar eich dwylo, eich dillad, offer ac arwynebau.

4)    Darllenwch y cyfarwyddiadau ar ddeunydd pecynnu’r twrci er mwyn canfod pa mor hir y bydd yn cymryd i’w goginio. Dylech wirio: bod y cig yn stemio’n boeth drwyddo draw; nid ydych yn gweld unrhyw gig pinc wrth dorri i’r darn mwyaf trwchus ac mae’r suddion yn rhedeg yn glir.

5)    P’un a’ch bod yn defnyddio twrci ffres neu dwrci wedi’i rewi, gallwch ddefnyddio’ch twrci dros ben i greu pryd newydd (fel cyri twrci). Gallwch rewi’r pryd newydd hwn, ond dylech sicrhau mai unwaith yn unig yr ydych chi’n ei ailgynhesu.

Osgoi gwenwyno

Dywedodd Dr Kevin Hargin, Pennaeth Rheoli Clefydau a Gludir gan Fwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd: “Bob blwyddyn mae oddeutu miliwn o achosion o wenwyn bwyd yn y DU; y ffordd hawsaf i amddiffyn eich teulu’r Nadolig hwn yw sicrhau eich bod yn storio ac yn coginio bwyd yn ddiogel.

“Rydym wedi llunio’r canllaw ‘Trafod twrci’ sy’n cynnig awgrymiadau ar oeri, glanhau, coginio ac osgoi croes-halogiad, a hefyd wedi esbonio peth o’r wyddoniaeth y tu ôl i’r cyngor yma.”

Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Wilkinson, Aelod Portffolio Cabinet ar faterion Iechyd yr Amgylchedd: “I lawer ohonom, fyddai hi ddim yn Nadolig heb y twrci. Fodd bynnag, gall coginio i grŵp mawr o bobl roi cryn bwysau arnom, o orfod caniatáu amser i wahanol fwydydd ddadmer a choginio, i sicrhau bod yr holl fwyd yn cael ei storio’n ddiogel. Gall twrci amrwd neu un wedi ei dangoginio achosi gwenwyn bwyd, a gall canlyniadau hyn fod yn ddifrifol, yn enwedig i blant, pobl sydd eisoes yn sâl a phobl hŷn.”