Mae cynlluniau deng mlynedd i ddatblygu’r sector gofal plant yng Nghymru, wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Y nod yw galluogi busnesau i sefydlu llefydd gofal plant ledled Cymru, ac annog pobol i ddilyn gyrfa yn y maes. Mae 23,300 o bobol yn gweithio yn y sector ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i ariannu a darparu 30 awr yr wythnos o ofal plant i rieni am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Gweledigaeth

“Mae’r cynllun rwyf yn ei gyhoeddi heddiw yn cydnabod yr heriau y mae’r hinsawdd economaidd bresennol yn eu cyflwyno i’r sector,” meddai Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant.

“Mae hefyd yn nodi gweledigaeth fwy hirdymor sy’n uchelgeisiol, ond yn hanfodol, er mwyn gwella ansawdd y gofal rydym yn ei gynnig i’n plant a chyflawni potensial y sector ymroddedig hwn a’i weithlu’n llawn.”