Ar ôl i’r newyddion dorri bod menyw ifanc ddigartref wedi marw yn yr oerfel mewn parc yng Nghaerdydd, mae rhai o drigolion y ddinas wedi mynd ati i gasglu dillad a sachau cynnes, ynghyd â nwyddau eraill addas i’w rhoi i bobol sydd ar y stryd yn y brifddinas.

Bellach, mae sesiynau ‘cyfnewid cotiau’ yn digwydd wrth draed cerflun Aneurin Bevan ar Stryd y Frenhines rhwng 1yp a 6yp bob dydd Gwener, a gwahoddiad i bobol ddod a chymryd beth bynnag sydd ei angen arnyn nhw er mwyn cadw’n gynnes yn yr oerfel. Mae croeso i bobol gyfrannu dillad hefyd.

“Roedd fy ŵyr ac wyres yn grac iawn bod rhywun yn ei dinas wedi marw yn yr oerfel gan ofyn beth oedden ni fel pobol yn neud i helpu?” meddai Victoria Morgan, un o drefnwyr ‘Cyfnewid Cotiau’.

“Roedden nhw’n benderfynol bod yn rhaid gwneud rhywbeth ynglŷn â’r sefyllfa.

“Oes, mae yna loches dan do sy’n cael ei ddarparu gan y cyngor ac elusennau, ond i nifer o bobol ddigartre’, dyw’r lloches honno ddim yn addas ar gyfer eu hanghenion.

“Mae dechrau’r prosiect yma wedi bod yn agoriad llygaid gan wneud i ni gyd sylweddoli y galle hyn ddigwydd i unrhyw un ohonom ar unrhyw adeg.

“Ta beth yw sefyllfa’r bobol ydyn ni’n eu helpu, r’yn ni yna i’w cadw yn gynnes, sgwrsio a chael tipyn o laff o dro i dro hefyd. Helpu, nid barnu, yw’r nod.”