Mae heddiw (dydd Gwener) wedi’i bennu’n Ddiwrnod Siwmper Nadolig gan elusen Achub y Plant, a’r gobaith yw y bydd plant ac oedolion mewn ysgolion, cartrefi a swyddfeydd yn gwisgo eu siwmperi gwirionaf er mwyn codi arian.

Nod Diwrnod Siwmper Nadolig yw codi arian ar gyfer cefnogi gwaith yr elusen yn rhyngwladol a hefyd yma yng Nghymru.

Gofynnir i bawb wisgo siwmper liwgar a chyfrannu £2 (£1 os mewn ysgol) gyda’r holl arian a gesglir yn mynd tuag at helpu plant mwyaf bregus y byd.

Ers lansio Diwrnod Siwmper Nadolig yn 2012 mae wedi codi swm o £13.5m, a’r llynedd fe godwyd £4m.

O jyrsis sy’n janglo i siwmperi sy’n goleuo a disgleirio, eleni mae Achub y Plant yn gobeithio y bydd pum miliwn o bobol yn cymryd rhan.

Gwerth yr arian

  • Gallai £1 brynu tabled puro i gyflenwi teulu gyda dŵr yfed glân
  • Gallai £2 brynu pâr o esgidiau gaeaf i blentyn yn Afghanistan
  • Gallai £400 brynu dŵr potel a blancedi thermol i 50 o blant