Mae’r newyddiadurwr o Gymro a fu’n ymgynghorydd cyfathrebu i Boris Johnson,  wedi cael swydd newydd gyda chylchgrawn dynion, GQ.

Daeth y cyhoeddiad heddiw y bydd Guto Harri yn gadael ei swydd gyda’r cwmni cyfryngau anferth, Liberty Global, ac yn ymuno â GQ yn Olygydd Gwleidyddol Cyfrannol.

Roedd Guto Harri, sy’n dod o Gaerdydd, yn arfer gweithio i Boris Johnson pan oedd yn Faer Llundain.

Bu’r cyn ohebydd gyda’r BBC hefyd yn gweithio i ochr materion cyhoeddus cwmni Rupert Murdoch, News International, sy’n berchen ar bapurau newyddion y Sun a The Times.

“Balch iawn o fod yn ymuno â thîm aruthrol GQ o ysgrifenwyr gwleidyddol,” meddai Guto Harri ar Twitter.

Mae GQ yn gylchgrawn materion cyfoes sydd wedi’i dargedu at ddynion. Ychydig wythnosau yn ôl, bu arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, ar glawr un o’r rhifynnau.