Mae un o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru wedi dweud yn gyhoeddus bod ganddo ganser.

Mewn datganiad, dywed Steffan Lewis, ei fod wedi cael y “newyddion torcalonnus” bod canser arno a’i fod wedi datblygu i’w bedwerydd cyfnod.

Yn 32 oed, fe yw un o’r Aelodau Cynulliad ifancaf, ac mae ganddo blentyn ifanc. Cafodd ei ethol yn Aelod Cynulliad Dwyrain De Cymru am y tro cyntaf yn 2016.

“Penderfynol o frwydro”

“Yr wythnos hon cefais y newyddion torcalonnus fod canlyniadau sgan CT yn dangos fod canser yn ei bedwerydd cyfnod arna i,” meddai.

“Er nad yw union natur y canser yn hysbys eto, mae wedi datblygu’n sylweddol.

“Rwyf i a fy nheulu yn parhau i ddod i delerau gyda’r newyddion ond rwy’n benderfynol o frwydro’r salwch a dod drwyddi. Rwy’n cael cefnogaeth anhygoel gan fy nheulu, ffrindiau a chydweithwyr sydd gyda mi pob cam o’r daith hon.

“Ni allaf ddiolch digon i staff Ysbyty Brenhinol Gwent am y gofal y maent yn darparu i mi,” meddai wedyn. “Byddaf yn cael profion pellach dros y dyddiau nesaf a bydd cynllun triniaeth yn cael ei baratoi i mi.

“Gwn fy mod yn y dwylo gorau posib i drechu’r salwch hwn, ac rwy’n benderfynol o wneud hynny.

“Rwy’n gofyn nawr am breifatrwydd i mi a fy nheulu wrth i mi dderbyn triniaeth.”