Mae adeiladu ail atomfa niwclear ar Ynys Môn gam yn nes heddiw ar ôl i reoleiddwyr roi sêl bendith i un agwedd ar y cynllun.

Mae cwmni Horizon, sydd y tu ôl i gynllun Wylfa Newydd, wedi dweud bod y cyhoeddiad yn “garreg filltir enfawr” i’r prosiect.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Swyddfa dros Reoli Niwclear [ONR], oedd y tu ôl i’r penderfyniad, mae hi’n ddiogel i ddefnyddio Uwch Adweithydd Dŵr Berw, fydd yn pweru Wylfa, yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod “asesiad trylwyr” wedi digwydd er mwyn sicrhau bod yr atomfa yn “bodloni safonau uchel o ran diogelwch, sicrwydd, diogelu’r amgylchedd a rheoli gwastraff.”

Mae’r penderfyniad yn golygu bod Horizon yn gam yn nes i adeiladu atomfa yn Oldbury yn ne Swydd Gaerloyw hefyd.

Croesawu

Yn ôl Llinos Medi, arweinydd Cyngor Môn, mae’r cyhoeddiad yn “gam pwysig arall ymlaen yn y daith i wireddu’r Wylfa Newydd.

“Mae’r Swyddfa Rheoli dros Niwclear (ONR) yn adnabyddus fel y rheoleiddiwr mwyaf caeth yn y byd, ac mae sêl bendith ganddynt yn dilyn yr Asesiad Dyluniad Generig cynhwysfawr yn rhoi hyder i ni yn niogelwch y dechnoleg sydd wedi ei darperir gan Hitachi-GE,” meddai.

“Bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn parhau i drafod gyda Phŵer Niwclear Horizon. Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i sicrhau bod y prosiect yma’n elwa Ynys Môn a rhanbarth Gogledd Cymru’n ehangach.”

“Rhoi Cymru ar flaen y gad”

“Mae gan niwclear newydd rôl ganolog i’w chwarae yn ein dyfodol ynni, gan ddarparu pŵer diogel, carbon isel ac yn cefnogi swyddi a thwf economaidd,” meddai Guto Bebb, Is-ysgrifennydd yn Swyddfa Cymru.

“Mae helpu i roi Cymru ar flaen y gad ym maes technolegau’r dyfodol a phrosiectau twf glân yn amcanion sylfaenol ein Strategaeth Ddiwydiannol.

“Er hynny, mae’n rhaid i ni fod yn gwbl sicr y bydd unrhyw adweithydd niwclear a fydd yn cael ei ddefnyddio yn y wlad hon yn bodloni ein safonau diogelwch llym. Mae cyhoeddiad heddiw yn gam pwysig ymlaen i brosiect Pŵer Niwclear Horizon yn Wylfa Newydd ar Ynys Môn.”