Mae Llywydd y Cynulliad wedi amddiffyn ei phenderfyniad i wahardd Aelod Cynulliad o UKIP rhag siarad yn Siambr y Senedd.

Yn ôl Elin Jones, roedd Gareth Bennett wedi “dwyn anfri” ar y Cynulliad ar ôl iddo ddweud bod angen cwtogi ar hawliau’r lleiafrif, gan gyfeirio at bobol drawsryweddol.

Mae UKIP wedi beirniadu’r Llywydd am ei phenderfyniad, gan ddweud bod angen “herio cywirdeb gwleidyddol”.

“Dw i’n disgwyl urddas a pharch”

Ond wrth siarad â golwg360, dywedodd Elin Jones ei bod hi’n glynu wrth ei phenderfyniad.

“Geith e siarad y diwrnod cyntaf fyddwn ni’n ôl, cyn belled â bod e’n ymddiheuro am yr hyn ddywedodd e,” meddai. “Roedd e’n sicr yn anseneddol ac yn dwyn anfri ar y sefydliad yma.

“Dw i’n disgwyl i Aelodau’r Cynulliad yma drin ei gilydd gydag urddas a pharch ond yn bwysicach, dw i’n disgwyl iddyn nhw drin pob un o bobol Cymru gydag urddas a pharch.

“Doedd hynny ddim yn wir am elfen o’i gyfraniad e, ac fe gawn ni weld beth ddaw yn y flwyddyn newydd. Dw i’n mawr hyderu y bydd yn cymryd cyfnod y Nadolig i ystyried hyn oll a daw nôl gydag ymddiheuriad ac wedi dysgu o’r profiad.

“Mae gyda fi linell o urddas a pharch dw i’n disgwyl oddi wrth Aelodau Cynulliad a dw i’n disgwyl i bawb o ba bynnag blaid i gadw at rheini.”