Mae ffrae’n codi tros arian datblygu’r economi yng Nghymru ar ôl Brexit gyda Llywodraeth Prydain yn rhybuddio y bydd yna newidiadau mawr.

Fydd hi ddim yn bosib parhau gyda’r un math o gynllun ag sydd yna dan yr Undeb Ewropeaidd, meddai datganiad gan Swyddfa Cymru heddiw.

Roedd hwnnw’n ymateb i alwad gan Lywodraeth Cymru am addewid y byddai’r Llywodraeth yn Llundain yn cadw at yr un lefelau gwario â’r Undeb – gwerth degau o filiynau o bunnoedd bob blwyddyn.

Cynllun newydd

“Dyw gweithredu cynllun yn union yr un peth ddim yn opsiwn,” meddai Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns. “Bydd y Llywodraeth hon yn penderfynu ar ffordd arloesol o gyllid’r cymunedau mwya’ anghenus yng Nghymru.”

Roedd y system Ewropeaidd yn ddrud ac aneffeithiol, meddai, gan ddweud bod rhannau o Gymru wedi derbyn £4 biliwn ond yn dal i aros ar y gwaelod o ran ffyrdd o fesur ffyniant economaidd.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn eisoes wedi rhybuddio rhag cynllun sy’n cael ei baratoi yn Llundain ar gyfer Cymru.

Maen nhw wedi bygwth peidio â gweinyddu arian mewn cynllun sy’n cael ei osod ar Gymru gan Whitehall.

Addo ‘ymgynghori’

Heddiw, mae Swyddfa Cymru yn dweud y byddan nhw’n ymgynghori ond mai’r bwriad yw sefydlu Cronfa Rhannu Ffyniant i’r Deyrnas Unedig.

Un awgrym eisoes yw cael gwared ar y gwahaniaethau rhwng gorllewin a dwyrain Cymru – ar hyn o bryd, y Gorllewin a’r Cymoedd yw’r unig ardaloedd sy’n derbyn y lefelau ucha’ o gymorth.