Caerdydd sydd wedi’i dewis yn Ddinas Cerddoriaeth gyntaf gwledydd Prydain, ac mae cynlluniau ar y gweill i warchod y sîn yn y brifddinas a chodi ei phroffil ledled y byd.

Fe fydd yr asiantaeth Sound Diplomacy yn mynd ati i lunio strategaeth i ddenu twristiaid i Gaerdydd ar sail barn pobol sy’n ymwneud â’r sîn gerddoriaeth.

Nod y trafodaethau fydd sicrhau bod lle teilwng i gerddoriaeth ym mywyd y brifddinas fel ei bod yn cyfrannu at ei bywyd bob dydd.

Polisi ‘Cyfrwng Newid’

Fe ddaw’r cyhoeddiad ar ôl i Lywodraeth Cymru ddatgan y bydd polisi ‘Cyfrwng Newid’ yn dod i rym y flwyddyn nesaf, gyda’r bwriad o ddiogelu canolfannau cerddoriaeth.

Bydd hyn yn cael ei wneud drwy sicrhau y bydd rhaid i ddatblygwyr ystyried effaith datblygiadau newydd ar fusnesau sydd eisoes yn yr ardal.