Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofidio am ddynes ddall sydd wedi mynd ar goll o’r Trallwng.

Dyw Diane Hart, sy’n 56 oed, ddim wedi cael ei gweld ers ddoe (dydd Mawrth).

Mae hi’n defnyddio ffon gerdded. Mae ganddi wallt Llwyd byr a sbectol.

Dywedodd yr heddlu mai’r tebygolrwydd yw ei bod hi ar droed.

Mae’r llu yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth am Diane Hart gysylltu â’r heddlu ar 101.