Mae Llywodraeth Cymru wedi tynhau’r cosbau sy’n cael eu rhoi i bobol sy’n cam-drin anifeiliaid gan godi’r ddedfryd fwyaf i bum mlynedd dan glo.

Ar hyn o bryd, chwe mis dan glo, gwaharddiad a dirwy yw’r ddedfryd fwyaf sy’n cael ei rhoi i bobol sy’n cam-drin anifeiliaid yng Nghymru dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.

Ond mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig, Ynni a Chynllunio, wedi cyhoeddi fod angen “gwarchod anifeiliaid rhag poen, anaf, ofn a gofid a dylai’r rhai sy’n cyflawni’r troseddau creulondeb anifeiliaid gwaethaf wynebu cosbau llym.”

Cryfhau mesur tu allan i’r Undeb Ewropeaidd

Mae Lesley Griffiths wedi ysgrifennu at Michael Gove am y newid hwn, sef Ysgrifennydd Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth Prydain.

Mae’n esbonio y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain yn cydweithio ar gyflwyno Mesur Drafft i’r newid gan roi ystyriaeth i les anifeiliaid fel “bodau ymdeimladol.”
“Mae ein barn ni am ymdeimlad wedi bod yn glir iawn,” meddai Lesley Griffiths.

“Rydyn ni’n cytuno’n llwyr bod anifeiliaid yn fodau ymdeimladol ac fe fyddwn ni’n parhau i hybu a gwella lles anifeiliaid, nawr ac ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai.

“Roedd y ffaith nad oedd ymdeimlad yn rhan o unrhyw Fil yn y Deyrnas Unedig yn bryder i ni a’n rhanddeiliaid, yn enwedig Cymdeithas Filfeddygol Prydain.

“Felly bydd cynnwys yr elfen sensitif yma ym Mil y Deyrnas Unedig yn rhoi hyder ac yn normaleiddio hyn.”