Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhyddhau rhybudd melyn pellach am rew i Gymru dros nos heno.
Mae’r rhybudd yn weithredol rhwng 4yh heno ac 11yb dydd Mercher (Rhagfyr 13) ac mae’n berthnasol i’r rhan fwyaf o Gymru heblaw am Sir Benfro ac ardaloedd arfordirol.
Mae pobol yn cael eu rhybuddio i gymryd gofal wrth deithio, ac i wirio teithiau trafnidiaeth gyhoeddus o flaen llaw.
“Mi fydd hi’n noson ddigon oer, ond ddim mor oer â neithiwr,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd.
Mae tua 300 o ysgolion wedi bod ar gau am yr ail ddiwrnod heddiw oherwydd y tywydd garw.
Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.
Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.