Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cael sêl bendith i barhau â’r cynlluniau i weinyddu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ystod cyfarfod cabinet heddiw bu trafodaeth ar y newid polisi gyda’r cynghorydd Shaun J Redmond yn cyflwyno cynnig yn galw am refferendwm cyn newid iaith y cyngor.

Ond yn ystod y cyfarfod, mi dynnodd y cynnig hwnnw yn ei ôl gyda chynghorydd arall yn cynnig gwelliant oedd yn cynnwys sefydlu panel i archwilio’r effaith o weinyddu yn y Gymraeg.

Mi gafodd y cynnig hwnnw ei wrthod gyda 22 yn pleidleisio yn ei erbyn, a chwech o’i blaid.

‘Cam mawr ymlaen’

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi llongyfarch Cyngor Sir Ynys Môn gan ddisgrifio’r penderfyniad yn “gam mawr ymlaen.”

“Mae’n newyddion gwych bod cynghorwyr wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu symud y cyngor at weinyddu’n fewnol drwy’r Gymraeg yn unig,” meddai Menna Machreth ar ran y gymdeithas.

“Rydyn ni’n gobeithio trafod y materion hyn gydag Arweinydd y Cyngor yn fuan, ac yn edrych am gadarnhad o amserlen pendant i symud holl adrannau’r cyngor at yr arfer gorau o ran polisi iaith,” meddai.

“Os gweithreda’r cyngor y polisi’n iawn, ac yn brydlon, bydd yn gam mawr ymlaen i’r Gymraeg, nid yn unig yn lleol, ond yn genedlaethol.”