Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi targed i geisio gwaredu â’r diciâu mewn gwartheg yng Nghymru erbyn 2036 neu hyd at 2041.

Fe fyddan nhw’n gwneud hyn drwy ganolbwyntio ar ddiogelu ardaloedd sydd â risg isel o TB rhag datblygu’r clefyd, ynghyd â cheisio lleihau’r clefyd mewn ardaloedd sydd â risg canolradd ac uchel.

Mae’r targedau’n cynnwys asesu pob un o’r rhanbarthau hyn bob chwe blynedd gan osod targedau newydd yn unol â’r gwelliant sydd wedi’i wneud.

‘Camau breision’

“Rydym wedi cymryd camau breision yn y blynyddoedd diwethaf i ddileu TB yng Nghymru,” meddai Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig, Ynni a Chynllunio.

“Gwelwyd gostyngiad arwyddocaol yn nifer yr achosion ledled y wlad ac rwy’n benderfynol o weld y gwelliant hwnnw’n para,” meddai.

“Mae’r cerrig milltir rhanbarthol o 6 mlynedd rwy’n eu cyhoeddi yn allweddol i hyn. Os llwyddwn ni i’w taro, bydd Cymru heb TB yn swyddogol rhwng 2036 a 2041.”

Targedau amser
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r targedau gan ddweud fod cael dyddiad targed yn cynnig “eglurdeb yn y broses ac yn ffocysu ar y rhaglen waredu,” meddai Hazel Wright, swyddog polisi ar ran yr undeb.

“Yn fwy na dim, mae’n cynnig atebolrwydd ac yn galluogi’r diwydiant i werthuso a yw’r strategaeth yn gweithio.”

Mae’n ychwanegu fod gan wledydd eraill dargedau amser penodol i waredu â’r clefyd gan gynnwys Seland Newydd, Iwerddon a Lloegr.