Mae pob lle wedi gwerthu ar gyfer Marathon Eryri 2018 – a hynny’n gynt nag erioed o’r blaen.

Cafodd dolen ceisiadau’r ras ei hagor am 7 y bore ar Ragfyr 1, ac mae’n debyg bod dros 2,700 o lefydd wedi’u gwerthu o fewn dwy awr.

Mae’r ras 26.2 milltir wedi cael ei chynnal 35 gwaith o’r blaen, ac mi fydd ras blwyddyn nesaf yn cael ei chynnal ar Hydref 27.

I’r rhai sydd wedi methu a chael lle yn y ras, mae modd cymryd rhan trwy redeg ar ran un o’r elusennau sydd mewn partneriaeth â’r digwyddiad.

Cefnogaeth “ysbrydoledig”

“Mae’r gefnogaeth fyddwn ni’n ei chael flwyddyn ar ôl blwyddyn yn ysbrydoledig,” meddai Cydlynydd y ras  Jayne Lloyd.

“Rydyn ni’n cynllunio ar gyfer ras y flwyddyn nesaf yn barod … ac unwaith eto’n edrych ymlaen at gynnal Marathon Eryri ardderchog yn 2018.”