Bydd yn rhaid i fusnesau brofi eu bod yn anelu i “leihau eu hôl troed carbon” os ydyn nhw am geisio am gymorth gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Bydd cynllun economaidd ‘Ffyniant i Bawb’ – sydd wedi’i lansio heddiw (Rhagfyr 12) – hefyd yn galw ar gwmnïau i arddangos arferion gweithio teg, ac i ymrwymo i ysgogi twf.

Nod y cynllun yw datblygu’r perthynas rhwng Llywodraeth Cymru a busnesau yn “seiliedig ar yr egwyddor o fuddsoddi arian cyhoeddus at ddiben cymdeithasol”.

Mae’r cynllun yn gobeithio gweithredu mewn pum maes i helpu busnesau i oresgyn heriau’r dyfodol: arloesi, allforio, swyddi, digideiddio a datgarboneiddio (sef lleihau dibyniaeth ar danwydd ffosil).

“Pedwerydd chwyldro”

“Rydym yn byw mewn oes o newid na welwyd ei debyg o’r blaen, ond rhaid cofio bod cyfleoedd sylweddol yn dod law yn llaw â hynny,” meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

“Wedi’i sbarduno gan y pedwerydd chwyldro diwydiannol, mae’r ffordd yr ydym yn byw, yn gweithio ac yn treulio ein hamser hamdden yn newid o flaen ein llygaid.

“Mae’n rhaid inni baratoi ar gyfer y newid hwnnw drwy roi’r gallu i bobl, busnesau a lleoedd wynebu’r dyfodol yn hyderus. Dyna yw nod ein cynllun newydd ar yr economi.”