Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn pellach am rew yng Nghymru rhwng heno ac 11 bore fory (Rhagfyr 12).

Mae’r rhybudd yn nodi fod angen cymryd gofal am rew ac eira rhwng 4yp heno ac 11yb fory wrth i’r tymheredd ostwng o dan y rhewbwynt dros nos.

Mae’r rhybudd melyn yn effeithio’r rhan fwyaf o Gymru heblaw am arfordir y gogledd a Sir Benfro.

Gall pobol sy’n byw ar dir uchel hefyd ddisgwyl rhai cawodydd o eira dros nos.

Cafodd bron i 600 o ysgolion eu cau heddiw yn 13 o siroedd Cymru oherwydd y tywydd gaeafol. Mae disgwyl i lai o ysgolion fod ar gau yfory.

Mae teithio wedi profi’n anodd mewn sawl ardal gyda Trenau Arriva Cymru yn annog teithwyr i gymryd gofal a gwirio manylion eu taith o flaen llaw.

“Nid ydym yn disgwyl cymaint â hynny yn fwy o ran cawodydd eira o’r newydd, ond mae’r risg nawr yn troi at rew,” meddai Grahame Madge, llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd.

Mae’n ychwanegu fod disgwyl i’r tymheredd ddisgyn o ganlyniad i’r awyr glir gan rewi’r eira a’r dŵr dan draed, gan rybuddio fod angen cymryd gofal wrth deithio.