Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau ei bod wedi dod o hyd i gorff dyn sydd wedi bod ar goll ers dros ddwy flynedd.

Cafodd Glenn Nayler, 35, – sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Glenn Doyle – o ardal y Rhath yng Nghaerdydd, ei weld am y tro olaf ar Chwefror 14, 2015.

Cafwyd hyd i’w gorff yn Fforest Fawr, Castell Coch ger Tongwynlais, ar Dachwedd 26.

Mae ei deulu wedi cael gwybod am y canfyddiad, ac nid yw’r heddlu yn trin yr achos fel un amheus.

Mae’r crwner yn paratoi adroddiad ac mi fydd cwest yn cael ei gynnal yn sgil y canfyddiad.