Mae’r cynllun i ddatblygu canolfan iechyd yn nhref Aberteifi gam yn nes wedi i Lywodraeth Cymru gymeradwyo £23.8m ar gyfer y cynllun.

Mi fydd y gwaith adeiladu’n dechrau ar hen safle’r Baddondy yn ystod gwanwyn 2018 gyda disgwyl i’r ganolfan agor ar ddiwedd 2019.

Bwriad y cynllun yw gwella’r ddarpariaeth gofal yn yr ardal gan ddod â’r gwasanaethau “o dan un to.”

Yn rhan o hyn bydd meddygfa, gwasanaeth deintyddol a fferyllfa yn rhan o’r ganolfan.

‘Gwahaniaeth mawr’

Mae Llywodraeth Cymru’n ychwanegu y bydd y ganolfan yn arwain at wella gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu yn yr ardal, ac mi fydd hefyd gwasanaeth mân anafiadau, mwy o wasanaethau diagnostig a “chyfle i gynyddu’r ddarpariaeth o wasanaethau 7 diwrnod.”

“Mae’n bleser cyhoeddi’r cyllid ar gyfer Canolfan Gofal Integredig Aberteifi, a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r gofal mae pobol ardal Aberteifi yn ei dderbyn, yn agosach i’w cartrefi ac yn eu cymunedau,” meddai Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd.

Proses ‘hir a llafurus’

“Dyma benllanw sawl blwyddyn o waith i sicrhau bod modd i ni ofalu am gleifion Aberteifi mewn ffordd ddiogel, gynaliadwy ac integredig drwy ddarparu canolfan sy’n addas i’r diben nawr ac ar gyfer y dyfodol,” meddai Peter Skitt, Cyfarwyddwr Sirol Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

“Rydyn ni’n cydnabod bod y broses gynllunio wedi bod yn go hir a llafurus ar adegau, ond roedd yn hanfodol gwneud yn siŵr fod y prosiect yn cael ei wneud yn iawn y tro cyntaf,” meddai.

“Hoffwn i ddiolch unwaith eto i’n rhanddeiliaid – yn arbennig pobl leol, cleifion a’n staff – am eu hamynedd a’u dealltwriaeth.”