O fis Ebrill ymlaen ni fydd raid i bobol sy’n prynu tŷ yng Nghymru am lai na £180,000 dalu trethi.

Daw hyn yn rhan o gyhoeddiad Llywodraeth Cymru wrth i’r dreth trafodion tir gael ei datganoli i Gymru ym mis Ebrill 2018.

Bwriad hyn, yn ôl Mark Drakeford yr Ysgrifennydd Cyllid, yw helpu pobol i brynu tai ac yn arbennig pobol sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf.

Newid yng Nghyllideb yr Hydref

Y cynllun gwreiddiol oedd gosod trothwy o £150,000 ar gyfer y dreth trafodiadau tir.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu codi’r trothwy hwn yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Prydain yng  Nghyllideb yr Hydref i ryddhau’r dreth stamp ar bobol sy’n prynu cartref am y tro cyntaf.

Mae disgwyl i 24,000 o brynwyr tai fanteisio o’r newid hwn, gan gynnwys pobol sy’n prynu am y tro cyntaf.

“Bydd y newidiadau rwy’n eu cyhoeddi heddiw i brif gyfraddau’r dreth trafodiadau tir yn golygu na fydd gofyn talu treth ar oddeutu 65% o’r gwerthiannau tai hyn,” meddai Mark Drakeford.

“Bydd mwy o brynwyr yn elwa ar y newidiadau hyn nag a fydd yn elwa ar y rhyddhad y mae’r Canghellor yn ei dargedu at brynwyr tro cyntaf – bydd mwy na hanner y rhai sy’n prynu tai yn manteisio ar ostyngiad treth o ran y dreth trafodiadau tir.”

“Bydd y cyfraddau gwell hyn yn helpu i ddiwallu anghenion a blaenoriaethau Cymru ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobol.”

Cyfraddau eraill

Dyma’r gyfradd trethi yng Nghymru gan ddibynnu ar werth yr eiddo:

Gwerth eiddo                                   Cyfradd treth

£0 – 180,000                                        0%

£180,000 – £250,000                         3.5%

£250,000 – £400,000                         5%

£400,000 – £750,000                         7.5%

£750,000 – £1.5m                              10%

£1.5m +                                                12%