Mae mudiad heddwch wedi galw ar Gabinet Cyngor Gwynedd i beidio â bwrw ymlaen a chynlluniau i ariannu canolfan awyrofod yn y sir – “safle fydd yn arbenigo mewn lladd” yn ôl ymgyrchwyr.

Mewn cyfarfod prynhawn dydd Mawrth (Rhagfyr 12) bydd y Cabinet yn trafod y posibiliad o gyfrannu £500,000 tuag at Ganolfan Awyrofod Eryri, ym Maes Awyr Llanbedr.

Mi fyddai hanner y swm yn deillio o gronfa Ewropeaidd, ac yn ôl dogfen gan y Cyngor gall y buddsoddiad arwain at greu 100 o swyddi.

Ond, mae mudiad Cymdeithas y Cymod yn gwrthod hyn gan ddadlau na fyddai’n arwain at greu cymaint o swyddi ac y byddai’r arian yn cyfrannu at “hyrwyddo drôns militaraidd”.

“Arbenigo mewn lladd”

“Mewn cyfnod o gwtogi enbyd, mae’n anfoesol y gall Cyngor Gwynedd roi hanner miliwn o bunnau tuag at ddatblygu safle fydd yn arbenigo mewn lladd,” meddai ymgyrchydd o’r mudiad, Awel Irene.

“Rydym hefyd yn amau’r honiad y daw cant o swyddi o’r buddsoddiad hwn. Swyddi dros dro i addasu’r ffordd a’r adeiladau ydi’r unig swyddi lleol ddaw yn sgil hyn.”

Mae’r grŵp hefyd yn dadlau bod ymrwymiad y cwmni technoleg filwrol QinetiQ â’r prosiect “yn brawf pendant mai bwriad militaraidd sydd i’r cynllun.”

Bydd aelodau Cymdeithas y Cymod yn bresennol yng Nghaernarfon yfory, ac mae’r mudiad wedi cyflwyno llythyr i aelodau’r Cabinet.

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Gwynedd am ymateb.