Wrth i’r ymgyrch marchnata ‘Blwyddyn y Chwedlau’ ddirwyn i ben, mae Llywodraeth Cymru wedi  lansio ymgyrch thematig newydd i’w olynu.

Gan ddilyn trywydd ei rhagflaenydd, bydd ymgyrch ‘Blwyddyn y Môr 2018’ – dan ofal Croeso Cymru – yn anelu i ddenu twristiaid i Gymru trwy amlygu agwedd benodol o’n diwylliant.

Mae’r Gweinidog Twristiaeth, Dafydd Elis-Thomas, wedi dweud ei fod am weld yr ymgyrch yn “dathlu arfordir Cymru” ac yn “adeiladu ar gryfderau Cymru” fel cyrchfan glan môr.

“[Bydd] yn rhoi cyfle inni ddathlu’n llwybr arfordirol unigryw, 870 milltir o hyd, ein 230 o draethau a’n 50 o ynysoedd, a’r ffaith bod gennym fwy o draethau Baner Las y filltir nag unman arall ym Mhrydain,” meddai Dafydd Elis-Thomas.

“Bydd y flwyddyn yn rhoi cyfle inni ganolbwyntio ar lannau môr Cymru gan gynnwys ein llynnoedd, afonydd a theithiau i’r môr – nid y môr yn unig – ac yn ddathliad o’n cymunedau arfordirol a’n diwylliant.”

Hwylio

Hannah Mills, sydd yn enedigol o Gaerdydd ac sydd wedi ennill medal aur Olympaidd am hwylio cystadleuol, fydd llysgennad yr ymgyrch.

Un digwyddiad o bwys fydd yn digwydd yn ystod Blwyddyn y Môr fydd Ras Cefndir Volvo yng Nghaerdydd. Bydd yn cael ei gynnal rhwng mis Mai a Mehefin.