Mae’r eira yn parhau i achosi trafferthion heddiw gyda’r Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi rhybudd melyn arall a fydd yn parhau mewn grym tan fore dydd Mawrth.

Yng Nghymru mae bron i 600 o ysgolion ynghau mewn 13 o siroedd  – yn bennaf yn Sir Y Fflint, Wrecsam, Sir Ddinbych a Phowys – ac mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybyddio teithwyr i gymryd gofal ar y ffyrdd.

Mae disgwyl oedi hefyd ar y rheilffyrdd hefyd wrth i’r gwaith clirio barhau ac mae Maes Awyr Caerdydd yn cynghori teithwyr i edrych ar eu gwefan cyn dechrau ar eu taith.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio bod perygl o lithro a chwympo ar balmentydd.

Mae dros 400 o dai heb gyflenwad trydan ac mae Western Power wrthi’n ceisio adfer pŵer i 7,000 o gartrefi yng Nghymru a Lloegr.

Arriva Cymru

Mae Trenau Arriva Cymru yn annog teithwyr i gymryd gofal ac i wirio manylion eu taith cyn gadael.

Mae disgwyl i deithiau’r cwmni rhwng Y Fenni a Henffordd gael eu gohirio a’u canslo oherwydd problemau ar y llinell.

Yn sgil problemau â gwasanaeth y cwmni dros y penwythnos, bydd modd defnyddio tocynnau teithiau a gafodd eu gohirio neu eu canslo ddydd Sul (Rhagfyr 10) ar gyfer teithiau ddydd Llun (Rhagfyr 11).

Amodau gyrru “heriol”

Mae cwmni RAC yn disgwyl bydd yn rhaid iddyn nhw gynorthwyo 11,000 o gerbydau ddydd Llun (Rhagfyr 11), ffigwr sydd 20% yn uwch na’r nifer arferol.

“Un o’r prif ffactorau yw bod pobol ddim yn mynd i fod yn amseru eu teithiau yn iawn,” meddai llefarydd diogelwch ffyrdd yr RAC, Pete Williams.

“Bydd siwrneiau rhyw ddwbl neu dair gwaith yr hyd arferol. Mae’r amodau gyrru yn mynd i fod yn heriol”.

Mae tair heol yn Rhondda Cynon Taf yn parhau ynghau ond mae ffordd Crimea ger Blaenau Ffestiniog wedi ail agor.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am ba ysgolion sydd ynghau ar wefannau’r cynghorau.

Faint o ysgolion sydd ynghau:

  • Abertawe: 0
  • Blaenau Gwent: 26
  • Bro Morgannwg: 0
  • Caerffili: 67
  • Caerdydd: 0
  • Ceredigion: 23
  • Conwy: 18
  • Castell Nedd Port Talbot: 3
  • Casnewydd: 3
  • Gwynedd: 17
  • Merthyr Tudful: 29
  • Pen-y-bont ar Ogwr: 0
  • Powys: 86
  • Sir Benfro: 0
  • Sir Ddinbych: 47
  • Sir Gâr: 6
  • Sir y Fflint: 78
  • Sir Fynwy: 24
  • Rhondda Cynon Taf: 43
  • Torfaen: 34
  • Wrecsam: 45
  • Ynys Môn: 0