Mae’r heddlu wedi cyhoeddi apêl frys yn dilyn diflaniad dynes 72 oed â dementia.

Dydy Joan Doherty ddim wedi cael ei gweld ers iddi adael ei chartref yn ardal Allt-yr-Ynn yng Nghasnewydd am 7 o’r gloch nos Sadwrn (Rhagfyr 9).

Mae hi’n 5’5″ ac o gorffolaeth denau, ac mae ganddi wallt llwyd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.