Mae rhybudd oren ledled Cymru heddiw yn dilyn cwymp eira sylweddol mewn rhai ardaloedd.

Aberhonddu sydd wedi cael y cwymp mwyaf drwy wledydd Prydain – bron i 23cm (naw modfedd).

Mae’r rhybudd yn ei le tan 6 o’r gloch heno yn y gogledd, Powys, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, ac mae rhybudd melyn yn y de.

Ond mae rhybudd i deithwyr gan yr heddlu ym mhob rhan o Gymru, gyda’r amodau gwaethaf yn ardaloedd Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu’r Gogledd.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod amodau gyrru’n “ofnadwy”, tra bod rhybudd i deithwyr yn y gogledd i gadw draw o’r ffyrdd oni bai bod gwir angen teithio.

Ffyrdd ynghau

Mae rhybudd i deithwyr ar yr A55 rhwng Llanelwy ac Ewlo fod amodau’n beryglus, tra bod amodau gyrru gwael yn ardal Wrecsam.

Mae ffordd fynyddig A4233 rhwng Aberdâr a’r Maerdy ynghau, ac mae eira trwm ar yr A465 Blaenau’r Cymoedd a thraffig yn araf yn ardal Merthyr Tudful.

Mae llifogydd yng Nghaerdydd.

Ym Mhowys, mae’r A458 ynghau rhwng Y Trallwng ac Amwythig.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae’r daith awyr o Gaerdydd i Amsterdam am 10.20 wedi’i chanslo ac mae rhybudd i deithwyr ar drenau i sicrhau bod trenau ar gael cyn teithio.

Mae 3,200 o gartrefi heb drydan yn y canolbarth, y gorllewin a’r de.

Fe gewch chi’r newyddion traffig diweddaraf ar wefan Traffig Cymru a’r diweddaraf am y tywydd ar wefan y Swyddfa Dywydd.