Dydy Heddlu’r Gogledd ddim yn trin marwolaeth dynes 34 oed o Ben-y-groes yn Nyffryn Nantlle fel un amheus.

Cafwyd hyd i gorff y ddynes, sydd wedi’i henwi’n lleol fel Eira Wyn Roberts, pan gafodd yr heddlu eu galw toc ar ôl 12 o’r gloch fore Sadwrn (Rhagfyr 9).

Cafodd dyn lleol ei arestio ar amheuaeth o ymosod, ac mae bellach wedi’i ryddhau dan ymchwiliad.

Mae archwiliad post-mortem wedi’i gynnal.