Mae mab Carl Sargeant wedi dweud ei fod e eisiau olynu ei dad a chael ei ethol yn Aelod Cynulliad dros Lafur yn Alun a Glannau Dyfrdwy.

Mae Jack Sargeant, 23, wedi cyflwyno’i enw ar gyfer yr is-etholiad fydd i’w gynnal yno ar Chwefror 6 yn dilyn marwolaeth ei dad.

Cafwyd hyd i gorff ei dad, y cyn-Ysgrifennydd Cymunedau, yn ei gartref yng Nghei Connah ddyddiau’n unig ar ôl iddo gael ei wahardd o’r blaid a cholli ei le yng Nghabinet Llywodraeth Cymru yn dilyn honiadau o gamymddwyn rhywiol.

Yn dilyn ei farwolaeth, mae’r Blaid Lafur wedi cyhoeddi na fydd eu hymchwiliad i’r honiadau’n parhau.

Dywedodd Jack Sargeant fod sefyll yn yr is-etholiad yn ffordd o ddiolch i bobol am eu caredigrwydd yn dilyn marwolaeth ei dad.