Mae’r ddynes a fu farw yn dilyn ’digwyddiad’ yn Nyffryn Nantlle yn ystod oriau mân bore Sadwrn, wedi ei henwi’n lleol fel Eira Wyn Roberts.

Roedd hi’n 36 oed ac yn byw yn Heol y Dwr, prif stryd Pen-y-groes, gyda’i dwy ferch oed cynradd.

Mae heddwas yn dal i fod ar ddyletswydd y tu allan i ddrws y ty lle y cawson nhw eu galw gan y gwasanaeth ambiwlans tua 12.10yb.

Mae dyn lleol wedi’i arestio ar amheuaeth o ymosod.