Fe ddaeth cadarnhad gan Heddlu Gogledd Cymru fod dynes 36 oed wedi marw yn dilyn digwyddiad ym Mhen-y-groes ger Caernarfon.

Fe gafodd plismyn eu galw i gyfeiriad ar y brif stryd, Heol y Dwr, toc wedi hanner nos (oriau mân dydd Sadwrn, Rhagfyr 9).

Mae’r heddlu’n dal i fod yn y ty, ac mae dyn lleol wedi’i ddwyn i’r ddalfa ar amheuaeth o ymosod.

Trydedd marwolaeth

Fe ddaw’r newydd am farwolaeth mam ifanc yn y pentref yn dilyn dau achos arall o fewn y chwe blynedd diwethaf.

Fe drywanwyd Emma Louise Jones yn farw o flaen ei chartref ar stad Trem yr Wyddfa ym Mhen-y-groes yn Rhagfyr 2011 – bron i chwe blynedd union yn ôl.

Fe laddwyd Emma Louise Baum gan gyn-gariad yn Ffordd Llwyndu, Pen-y-groes, ym mis Gorffennaf 2016. Roedd hi’n 22 oed.