Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enwau tri phlentyn a fu farw mewn tŷ yn Ne Powys a losgodd yn ulw diwedd mis Hydref.

Bu farw Just Raine, 11, a’i frawd, Reef Raine, 10, a’u chwaer, Misty Raine yn y tân yn yr hen ffermdy yn Llangamarch.

Bu farw David Cuthbertson, 68, hefyd ac nid yw dau blentyn arall wedi eu hadnabod yn ffurfiol eto.

Llwyddodd tri phlentyn, yn 13, 12 a 10 oed i ddianc y tân yn oriau man bore Hydref 30, heb anafiadau.

Dywedodd Prif Uwch-arolygydd Heddlu Dyfed Powys, Tony Brown, sy’n arwain y gwaith yn y ffermdy, fod pedwerydd corff wedi cael ei ganfod ond heb ei adnabod.

Mae’r awdurdodau yn ceisio dod o hyd i’r chweched person.

“Rydym yn gweithio ar y ddamcaniaeth fod pum plentyn yn dal i fod ar goll yn dilyn y tân ac felly bydd gwaith yn parhau i geisio dod o hyd i gorff arall,” meddai Tony Brown.

“Mae ein calonnau yn mynd at y teulu ac mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda nhw.”

Mae’r gronfa, a gafodd ei sefydlu i helpu’r teulu, wedi codi dros £23,000 hyd yn hyn.

“Gwaith heriol”

Mae’r tân yn dal i gael ei drin fel un heb esboniad a dywed yr heddlu fod y gwaith o ddod o hyd i’r cyrff yn un heriol iawn.

“Roedd natur y tân hwn yn nerthol ac yn ddinistriol iawn ac mae hynny wedi’i wneud yn anodd iawn wrth i ni weithio’n ddiflino i asesu’r safle a dod o hyd i gyrff, dyna pam mae’n cymryd cymaint o amser,” meddai Tony Brown.

“Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi wynebu’r dasg anodd o dynnu waliau allanol y tŷ – 260 o dunelli o frics a mortar – bric wrth fric, â llaw.

“Dim ond ar ôl i hynny orffen, roeddwn i’n gallu rhannu tu fewn y tŷ a dechrau’r chwilio blaen bys am weddillion.

“Mae gwyddonwyr arbenigol wedi bod gyda ni ar y safle i asesu’r hyn rydym wedi’i ddarganfod ac rydym wedi cymryd gofal i sicrhau bod y broses yn cadw’r parch mwyaf tuag at y meirw a’r sawl sy’n galaru.

“Mae’n amlwg wedi bod yn anodd ac yn heriol mewn sawl ffordd i bawb ac mae’r gwaith hwn yn debygol o bara am ychydig wythnosau.”