Byddai pysgotwyr Cymru yn elwa yn fwy pe bai Llywodraeth Prydain yn gyfrifol am bysgodfeydd yn hytrach na Llywodraeth Cymru, yn ôl Cadeirydd cymdeithas bysgota.

Roedd Owain Roberts yn Gadeirydd ar Bwyllgor Pysgodfeydd Gogledd Ddwyrain Lloegr a Gogledd Cymru am chwe blynedd, cyn rhoi’r gorau iddi pan gafodd pwerau dros y maes eu datganoli i Gymru.

Bellach mae’n gadeirydd ar Gymdeithas Pysgotwyr Llŷn, ac yn dadlau bod llawer yn Llywodraeth Cymru yn anwybodus ynglŷn â’r maes, ac yn “mynd dros ben llestri” dros faterion amgylcheddol.

Daw sylwadau Owain Roberts wrth i Lywodraeth Cymru lansio ymgynghoriad ar ‘Gynllun Morol’ newydd.

Nod y cynllun yw rheoli’r moroedd o amgylch glannau Cymru, ac mi fydd y trafod yn parhau am fwy na thri mis.

Gobaith Llywodraeth Cymru yw taro cydbwysedd rhwng cadwraeth ar un llaw, a hawl grwpiau – gan gynnwys pysgotwyr – i wneud defnydd o’r môr.

“Dim byd i’r gogledd”

“Llywodraeth de Cymru dw i’n eu galw nhw,” meddai Owain Roberts wrth golwg360.

“Mae pob dim yn mynd i Gaerdydd, pob dim yn mynd i’r de. Dyna ydy’r drwg … Mae’r cwbl yn mynd i Gaerdydd a’r de. Dim byd i’r gogledd. Buasai ni’n well dan Lundain.

“Maen nhw’n mynd tu hwnt efo pob dim. Efo pysgodfeydd sgolopiau yng Nghymru, maen nhw wedi cau bob man. Ac i be? Achos mae storm fel yr un cawsom neithiwr yn gwneud mwy o niwed mewn noson na neith llongau pysgota.

“Mae yna lot o bethau lle maen nhw’n mynd dros ben llestri. Ac mae llawer ohonyn nhw’n bobol sydd ddim yn gwybod beth maen nhw’n gwneud.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.