Gyda thrafodaethau Brexit yn symud ymlaen at eu cam nesaf, mae gwleidydd wedi codi pryderon am yr “amwysedd” sy’n parhau dros ddyfodol Cymru tu allan i Ewrop.

Yn ôl yr Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Steffan Lewis, mae’n “hanfodol” ein bod yn parhau’n aelod o’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau.

Ac yn sgil dadleuon cyhoeddus yr wythnos hon tros y ffin Wyddeleg, mae wedi adleisio galw ei blaid i rwystro ffurfiad ffin galed ar hyd arfordir Cymru.

Cymru ac Ewrop

“Cawn weld os fyddan nhw’n llwyddo osgoi creu ffiniau caled yn Iwerddon ac mewn porthladdoedd yng Nghymru,” meddai. “Mae’n allweddol bod hyn ddim yn digwydd.”

“Mae yna amwysedd o hyd ynglŷn â sut fydd Llywodraeth San Steffan yn mynd i’r afael a nod Cymru i fod yn y Farchnad Sengl ac Undeb Tollau – rhywbeth sy’n hanfodol.”

“Bydd Plaid Cymru yn brwydro yn ddi-baid dros ein haelodaeth o’r elfennau pwysig yma o’n heconomi a’n cenedl.”