Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi tros £12m o arian cyhoeddus at y gost o gynhyrchu ffilmiau yn yr iaith Saesneg.

Ond mae cwynion am nad oes yr un geiniog wedi mynd at greu ffilmiau Cymraeg eu hiaith.

Mae’r Llywodraeth wedi benthyca miliynau i gwmnïau wneud ffilmiau Saesneg, dan gynllun o’r enw ‘Cyllideb Buddsoddi Cyfryngau’.

Yn ôl y telerau ar gyfer derbyn arian, rhaid saethu o leiaf hanner y ffilm yng Nghymru, a gwario 40% o’r cyllid cynhyrchu ar nwyddau a gwasanaethau gan gwmnïau yng Nghymru.

Pinewood Studios yw’r cwmni sydd wedi cael y benthyciad mwyaf hyd yma – fe gawson nhw fwy na £3m gan Lywodraeth Cymru i wneud y ffilm Take Down, a hyd yma mae llai na £1 miliwn wedi ei dalu yn ôl.

Fe gafodd Take Down ei ffilmio yn Ynys Môn ac Ynys Manaw, ac er iddi gael ei dangos mewn sinemâu yn America a Kuwait, dim ond trwy DVD yr oedd modd ei gwylio yng ngwledydd Prydain.

“Ffafrio’r Saesneg”

Yn ôl ymgyrchwyr iaith mae Llywodraeth Cymru yn “ffafrio’r Saesneg” ac yn anwybyddu’r “gallu i greu ffilmiau Cymraeg o’r safon uchaf”.

“Mae’r buddsoddiad yn y Saesneg yn sylweddol iawn iawn, ac mae’n wir yn slap yn y wyneb i’r rheini sydd eisiau cynhyrchu ffilmiau yn Gymraeg, y diwydiant ffilm a theledu Cymraeg a chefnogwyr y Gymraeg yn fwy cyffredinol,” meddai Aled Powell, Cadeirydd Grŵp Digidol, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Y Llywodraeth wedi cefnogi teledu Cymraeg

Yn ôl llefarydd Llywodraeth Cymru “mae Cymdeithas yr Iaith ond yn canolbwyntio ar nawdd i ffilmiau a ddim yn cydnabod y gefnogaeth sylweddol a roddir gan Lywodraeth Cymru i brosiectau cyfrwng Cymraeg sy’n cael eu darlledu ar deledu neu tros y We.”

Yn ôl y Llywodraeth maen nhw wedi rhoi £769,000 at y gost o ffilmio Y Gwyll a £350,000 at gostau’r ddrama Bang ar S4C.

 Stori lawn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.