Mae un o arweinwyr ymgyrch Abertawe i fod yn Ddinas Diwylliant gwledydd Prydain yn dweud y byddan nhw’n parhau gyda llawer o’r gweithgareddau.

Roedd yna siom yn y ddinas neithiwr wrth i’r Llywodraeth gyhoeddi mai Coventry fyddai’n cael y teitl ar gyfer 2021 – gan guro Abertawe a thair tref arall.

Ond, yn ôl Robert Francis-Davies, y cynghorydd sy’n gyfrifol am Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, fe fydd hi’n bwysig cynnal momentwm yr ymgyrch.

“Dw i ddim yn credu bod Abertawe wedi gwneud dim o’i le o gwbl,” meddai’r cynghorydd wrth Radio Wales. “Roedd tîm Abertawe’n wych.”

‘Dal ati’

Mae ef a nifer o awduron ac artistiaid o’r ardal wedi dweud bod angen bwrw ymlaen i weithredu rhannau o’r rhaglen oedd wedi ei chynnig ar gyfer y cais Dinas Diwylliant.

“Y peth pwysig yw ein bod yn cyflawni’r rhaglen,” meddai Robert Francis-Davies. “Mae’n rhaid i ni ddal ati i symud ymlaen.”

Dyma’r ail dro i Abertawe golli yn eu cais am y teitl – roedden nhw wedi cystadlu yn erbyn Hull sy’n ddinas diwylliant eleni.