Mae ymgynghoriad wedi dechrau ar gynllun dadleuol i geisio rheoli’r moroedd o amgylch glannau Cymru.

Fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet, Lesley Griffiths, y byddai’r trafod yn parhau am fwy na thri mis wrth i’r Llywodraeth geisio creu’r ‘Cynllun Morol’ cenedlaethol cynta.

Mae hwnnw’n ceisio taro balans rhwng cadwraeth ar un llaw a hawl cymunedau, fel pysgotwyr, i wneud defnydd o’r môr.

Dau ddiwydiant arall allweddol yw twristiaeth a chloddio am dywod a graean, gyda gwrthdaro yn aml rhwng anghenion y diwydiannau a’r amgylchedd.

‘Datblygu ond gwarchod yr amgylchedd’

Yn ei datganiad yn y Cynulliad, roedd pwyslais Lesley Griffiths ar ddatblygu economi’r môr ond gan ddweud bod angen datblygu mewn ffyrdd cynaliadwy.

“Bydd hyn yn ein helpu i wireddu’n huchelgais am ‘Dwf Glas’ yng Nghymru,” meddai, “tra’n sicrhau ein bod yn cynnal ac yn cyfoethogi nerth ecosystemau’r môr a sicrhau bod y manteision y maen nhw’n eu darparu yn cynnal cenedlaethau heddiw ac yfory.”