Mae Llywodraeth San Steffan wedi cadarnhau nad oes cynlluniau i adeiladu carchar i fenywod yng Nghymru.

Yn ôl yr Is-ysgrifennydd Cyfiawnder, Phillip Lee, does yna ddim penderfyniad wedi cael ei wneud ar y mater, a dywedodd ei fod yn cydnabod nad yw carcharu menywod am gyfnodau byr yn gwneud lles.

Roedd yn ateb cwestiwn Carolyn Harris, yr Aelod Seneddol dros Ddwyrain Abertawe, yn Nhŷ’r Cyffredin.

“Rydym i gyd yn gwybod bod gormod o fenywod yn cael dedfrydau byrrach am fân droseddau lle byddai ailsefydlu drwy ganolfannau i fenywod yn llawer mwy cynhyrchiol,” meddai Carolyn Harris.

“A fydd y Gweinidog yn fy sicrhau nad oes cynlluniau am garchar i fenywod yng Nghymru, neu’n waeth, cynlluniau ar gyfer uned droseddau benywaidd y drws nesaf i garchar dynion, a bod cynlluniau i ganolfannau menywod yng Nghymru?”

“Dim penderfyniad”

Dywedodd Phillip Lee, ei fod yn cadarnhau nad oes “unrhyw benderfyniad wedi cael ei wneud i adeiladu carchar menywod yng Nghymru.”

“Dw i’n deall ac yn cydnabod nad yw dedfrydau byr yn cyflawni’r addewid, a dw i hefyd yn cydnabod bod llawer o fenywod yn ddioddefwyr eu hunain.

“Yn y pen draw, mae ganddon ni gyfrifoldeb i gadw pobol sydd wedi gwneud pethau o’i le oddi wrth y cyhoedd – a lleihau nifer y troseddau ar gyfer yr hirdymor drwy weithio’n well gyda’r menywod sy’n cael eu heffeithio.”

Daw hyn ar ôl i nifer y merched o ogledd Cymru sy’n cael eu carcharu gynyddu 57% rhwng 2011 a 2016. Daw’r ffigurau yn dilyn cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan gylchgrawn Golwg.