Fe fyddai gwleidydd o Gymro a oedd yn rhan allweddol o drafodaethau annibyniaeth i Zimbabwe, “jyst y dyn” i’w gael yn nhrafodaethau Brexit heddiw, meddai cofiannydd a oedd hefyd yn ffrind iddo.

Yn ôl D Ben Rees, awdur llyfr ar fywyd a gwaith cyn-Ysgrifennydd Cymru, Cledwyn Hughes, roedd y Cymro Cymraeg o Gaergybi yn “gwbwl allweddol” i drafodaethau annibyniaeth Zimbabwe.

Yn 1965, fe deithiodd Cledwyn Hughes i Rhodesia, fel yr oedd y wlad yn cael ei nabod ar y pryd, ar ran Llywodraeth Prydain i gynnal trafodaethau ar roi annibyniaeth i’r wlad.

Fe fethodd y tro cyntaf, ond aeth yn ôl i Zimbabwe yn 1987, lle bu’n llwyddiannus yn trosglwyddo pwerau i lywodraeth Robert Mugabe.

Parchu pobol

Ac mae D Ben Rees yn sicr bod angen gwleidydd â sgiliau Cledwyn Hughes heddiw yn y trafodaethau rhwng llywodraeth Prydain a’r Undeb Ewropeaidd tros amodau Brexit.

“Bydde fe jyst y dyn nawr gyda Brexit, bydde fe yn erbyn Brexit ond ambell un wedi cael ei fendithio ondyw e a dawn i fedru dod â phobol at ei gilydd a dod i gytundeb,” meddai D Ben Rees wrth golwg360.

“Roedd hynny gyda Cledwyn, roedd gyda fe’r ddawn fugeiliol yma a diddordeb a rhoi pwys mawr ar y bobol roedd yn ei gyfarfod, nid yn eu bychanu nhw ond yn gwneud iddyn nhw deimlo bod nhw’n bobol arbennig iawn.

“Mwya’ i gyd mae rhywun yn treulio ar y ddaear yma, chi’n gweld bod yna gyfnodau lle does yna ddim llawer o bobol fel yna i gael.

“Ar un adeg, roedd yna lawer o bobol arbennig iawn i gael, ond yn y cyfnod rydyn ni nawr ynddo fe, bydden i’n dweud bod nhw’n brin iawn, y bobol sy’n meddu ar sgiliau Cledwyn.

“Roedd e’n medru gwneud pobol o bob plaid i deimlo’n ffrindiau gyda fe ac roedd e’n ddigon call i weld bod angen magu perthynas dda gyda phobol o wahanol safbwyntiau.

“Roedd e’n parchu pobol, fel pe bai yn eu hedmygu nhw, sy’n bwysig dros ben i wleidydd sydd yn y rhengoedd uchaf o Lywodraeth.”

Gweinidog dros Gymru – anodd

Mae D Ben Rees yn awgrymu bod Cledwyn Hughes wedi cael gwell hwyl arni yn Weinidog dros y Gymanwlad na Gweinidog dros Gymru.

“Os rhywbeth, cafodd Cledwyn mwy o ddylanwad yn y math yna o waith nac a gafodd e fel Gweinidog dros Gymru,” meddai.

“Yr adeg hynny [yn y 1960u] roedd yna ddisgwyliadau mor fawr oherwydd bod e’n Gymro mor dda, roedd disgwyliadau mor fawr gan Gymdeithas yr Iaith a charedigion yr iaith i feddwl y byddai fe’n gallu gwneud mwy nag y medra fe wneud.

“Cafodd lot ohonyn nhw siom, ac fe aeth rhai yn flin a mynd dros ben llestri gyda’u protestiadau.”