Unigrwydd ac unigedd yw un o’r problemau mwyaf sy’n wynebu pobol hŷn yng Nghymru, a does gan Lywodraeth Cymru ddim bwriad i gyhoeddi strategaeth i fynd i’r afael â’r mater tan 2019.

Dyna y mae grŵp o Aelodau Cynulliad ar y Pwyllgor Iechyd wedi’i ganfod yn dilyn ymchwiliad sy’n dangos bod tua hanner miliwn o bobol yng Nghymru yn teimlo’n unig bob amser neu’n aml.

Yn ôl y Pwyllgor, mae teimlo’n unig yn gallu bod mor wael i iechyd person ag y mae ‘smygu 15 o sigaréts y dydd.

Mae pryder hefyd y gallai’r broblem fod yn llawer gwaeth am fod gan bobol ormod o gywilydd cyfaddef eu bod yn unig.

Un o’r ffactorau mwyaf sy’n cyfrannu at y broblem yw diffyg cludiant cyhoeddus a hynny yn enwedig gyda’r nos.

Clywodd y Pwyllgor fod rhai pentrefi wedi eu hynysu’n llwyr am nad oes ganddyn nhw wasanaeth bws.

Fe wnaeth tystion i’r ymchwiliad sôn am yr eironi o gael tocyn bws am ddim pan fyddwch yn hŷn ond nad oedd y gwasanaeth ar gael i lawer o bobol.

Yn ôl y Pwyllgor, mae mudiadau gwirfoddol yn gwneud “gwaith rhagorol” i daclo’r unigrwydd ond bod hi’n destun pryder mai dim ond yn y tymor byr y mae cyllid yn cael ei roi, a bod hyn yn arwain at gau cynlluniau.

Galw am weithredu

“Mae gan Gymru ganran fwy o bobl hŷn yn ei phoblogaeth nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig ac yn aml mae hyn yn golygu bod pobl yn fwy dibynnol ar wasanaethau cymdeithasol a bod ganddynt anghenion mwy cymhleth,” meddai Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

“Mae effaith unigrwydd ac unigedd yn ddwys, a gall fod â chanlyniadau meddyliol a chorfforol. Nid yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi ei strategaeth i fynd i’r afael â’r materion hyn tan 2019.

“Nid yw hyn yn ddigon da, ac rydym yn galw ar weinidogion i gwtogi’r amserlen honno.

“Rydym am weld cyllid mwy sefydlog er mwyn i unigolion a sefydliadau sy’n cyflawni gwaith mor ardderchog ar lawr gwlad fod yn hyderus y gallant ddarparu’r gwasanaethau hanfodol hyn yn y tymor hir.”

“Blaenoriaeth” Llywodraeth Cymru

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae taclo unigrwydd ac unigedd yn “flaenoriaeth” iddi ac mae’n dweud ei bod wedi datblygu sawl rhaglen i helpu.

“Rydym hefyd yn ymrwymedig i gymryd camau gweithredu pellach i fynd i’r afael â’r mater pwysig hwn,” meddai’r llefarydd.